Pam cynllunio?
Efallai eich bod yn credu nad oes gennych ddigon o amser i gynllunio. Mae rhedeg pethau o ddydd i ddydd yn mynd â’r rhan fwyaf o’ch amser ac rydych yn cymryd yn ganiataol bod pawb arall yn y mudiad yn gwybod beth ydych chi’n ei wneud ac i ba gyfeiriad yr ydych am fynd. Fodd bynnag, rydym yn gweithio mewn amgylchiadau dynamig gyda newidiadau cyson i arferion gweithio, polisïau a deddfwriaeth ac opsiynau nawdd newydd sydd ar gael i’r sector.
Bydd cynllunio’n helpu’ch mudiad i benderfynu ar gyfeiriad ar gyfer y dyfodol a’r ffordd o gyflawni hynny. Gall:
- Roi ymdeimlad cryf o bwrpas i’ch mudiad
- Helpu i bennu blaenoriaethau ac amcanion
- Helpu i baratoi cynllun codi arian a rheoli llif arian
- Canfod pa adnoddau sydd eu hangen e.e. arian, personél, gofod swyddfa, sgiliau, offer a sut i’w defnyddio’n fwyaf effeithlon
- Helpu i ragweld newid a rheoli risg
- Cynorthwyo i fonitro a gwerthuso eich gwaith